Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) (Diwygio) 2023

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1: Bydd Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Cychwyn Rhif 4) 2023 (nad yw wedi ei wneud eto) yn cychwyn:

·         adran 23 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”), ac Atodlen 2 iddi, ar 29 Mawrth 2023 er mwyn galluogi gwneud cynllun trosglwyddo; a

·         gweddill Rhan 4 o Ddeddf 2020, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ar 1 Ebrill 2023, er mwyn cyd-daro â’r dyddiad y bydd Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“y Corff”) yn gwbl weithredol. Mae hyn ac eithrio adran 19(3) a (4) o Ddeddf 2020 (Mynediad i fangreoedd gan Gorff Llais y Dinesydd: dyletswydd i roi sylw i god ymarfer (“y Cod”)). Disgwylir i’r darpariaethau hyn gael eu cychwyn ar 1 Gorffennaf 2023 yn dilyn ymgynghoriad pwrpasol â’r Corff am y Cod, unwaith y bydd y Corff wedi cael ei bwerau llawn.